Ardal derbynwyr grantiau
Y Ffindir

Dysgwyr rhan-amser yn ailddiffinio symudedd myfyrwyr trwy gyfnewid trawsffurfiol i’r Ffindir

Rhannwch hyn!

Ym mis Chwefror 2026, cymerodd 31 o fyfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (UWTSD) ran mewn taith gyfnewid drawsffurfiol i’r Ffindir, a ariannwyd gan Taith. Daeth y cyfnewid â myfyrwyr o gyrsiau Gwaith Ieuenctid, Blynyddoedd Cynnar ac Astudiaethau Addysg ynghyd  ac roedd yn cynnwys myfyrwyr hŷn a’r rhai sy’n astudio’n rhan-amser, gan gydbwyso eu hastudiaethau ochr yn ochr â chyflogaeth ac ymrwymiadau teuluol.  I lawer, roedd yr ymweliad yn gyfle na fyddai wedi bod yn bosibl trwy raglenni astudio dramor mwy traddodiadol, tymor hwy, gan roi cyfle iddyn nhw ddysgu nid yn unig gan eu gwesteiwyr o’r Ffindir, ond gan ei gilydd.

Mynychodd y myfyrwyr ddarlithoedd ochr yn ochr â’u cyfoedion o’r Ffindir, ymwelon nhw â chanolfannau ieuenctid a meithrinfeydd, a siaradon nhw ag aelodau o Gyngor Helsinki. Treuliwyd yr wythnos yn ymgolli’n llwyr yn ymarfer y Ffindir – gan weld sut mae gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio, deall sut mae gwahanol sefydliadau llywodraethol yn gweithredu, a dysgu dulliau newydd o weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Nid yn unig gwnaeth y profiad alluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth broffesiynol; arweiniodd hyn at dwf enfawr mewn hyder ac uchelgais. Mae wedi llunio sut maen nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain a sut maen nhw’n gweld eu dyfodol – gan greu effaith gydol oes.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.