Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Rhaglen Taith 2024

Version 1.0, January 2024

1. Canllaw Rhaglen Taith

A line of four women, two are wearing Basotho (mokorotlo) hats.

Mae’r canllaw hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i sefydliadau ac unigolion am Taith, sut mae’r rhaglen yn gweithio a phwy sy’n gymwys i wneud cais am, a chael, cyllid. Mae’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar sefydliadau i gymryd rhan. I gyd-fynd â’r Canllaw Rhaglen hwn mae gennym Ganllawiau Llwybr penodol, sy’n rhoi manylion am y Llwybrau Ariannu Taith unigol, gan gynnwys gweithgareddau cymwys, costau a gwybodaeth sy’n benodol i’r sector.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllaw hwn ochr yn ochr â’r Canllaw penodol i Lwybr ar gyfer yr alwad ariannu yr ydych yn gwneud cais/wedi derbyn cyllid ar ei chyfer.