3. Deall y rheolau ariannu ar gyfer Taith a chydgyfnewid

3.1. Rheolau ariannu
Mae’r rheolau ariannu canlynol yn berthnasol i bob sector a phob llwybr:
- Mae Taith ar agor i geisiadau gan sefydliadau a reoleiddir neu sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, oni nodir yn wahanol ym meini prawf cymhwysedd y sector.
- Ni all unigolion wneud cais yn uniongyrchol am gyllid.
- Nid oes angen i gyfranogwyr fod yn ddinasyddion y DU.
- Ni fydd Taith yn ariannu gweithgareddau a ariennir eisoes drwy raglenni ariannu cenedlaethol neu ryngwladol eraill.
- Anogir agweddau cydgyfnewid a gellir gwneud cais am gyllid ychwanegol i gefnogi hyn.
3.2. Cydgyfnewid
Mae Taith yn ariannu sefydliadau cymwys yng Nghymru i ymgymryd â lleoliad cyfnewid allanol a chymryd rhan mewn cydweithrediadau strategol. Mae egwyddorion dwyochredd a dysgu ar y cyd yn ganolog i Taith ac felly mae gennym arian grant ychwanegol ar gael y gall sefydliadau wneud cais amdano i ariannu gweithgarwch partner rhyngwladol.
Ceir rhagor o wybodaeth am gyllid cyfatebol yng Nghanllawiau Rhaglen Llwybr 1 a 2.
Mae’n bwysig deall y derminoleg mewn perthynas â gweithgareddau symudedd allanol a mewnol a cheir crynodeb byr isod:
- Y sefydliad sy’n gwneud cais yw’r sefydliad yng Nghymru sy’n gwneud cais am gyllid i Taith.
- Y sefydliad sy’n derbyn yw’r sefydliad partner rhyngwladol a fydd yn croesawu cyfranogwyr o’r sefydliad sy’n gwneud cais, neu’n gweithredu fel partner rhyngwladol mewn cydweithrediad strategol.
- Mae’r sefydliad sy’n anfon yn sefydliad sydd wedi’i gofrestru ac yn gweithredu y tu allan i’r DU sy’n anfon cyfranogwyr i’w lletya gan y sefydliad sy’n gwneud cais fel rhan o weithgaredd symudedd mewnol.
Bydd sefydliadau sy’n gwneud cais yng Nghymru sy’n cael cyllid Taith yn gyfrifol am sicrhau bod ganddynt gytundeb(au) priodol ar waith gyda’r sefydliadau sy’n derbyn cyn i weithgarwch prosiect neu leoliad cyfnewid allanol ddechrau. Bydd yn ofynnol i sefydliadau sy’n anfon gael cytundeb(au) priodol gyda’r sefydliadau sy’n gwneud cais yng Nghymru cyn i unrhyw leoliad cyfnewid mewnol ddigwydd. Nid oes rhaid i ymgeiswyr o fewn y sectorau Ysgolion, Ieuenctid, Addysg i Oedolion, AB ac AHG ddefnyddio’r un sefydliadau derbyn ac anfon. Ar gyfer AU, y disgwyliad cyffredinol yw bod llif allanol ar gyfer pob mewnlif i Gymru ar gyfer unrhyw un partner rhyngwladol. Ni chaiff buddiolwyr dderbyn cyfranogwyr mewnol gan bartner, lle nad oes unrhyw fwriad i anfon myfyrwyr allanol atynt yn ystod y prosiect.
3.3. Cyrchwledydd a thiriogaethau cymwys
Mae Taith ar agor i bob gwlad yn y byd, ond mae’n rhaid dilyn cyngor teithio Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) Llywodraeth y DU. Os bydd FCDO yn cynghori yn erbyn teithio i wledydd/rhanbarthau penodol, ni fydd Taith yn ariannu teithio i’r wlad honno. Pan fydd amgylchiadau’n newid mewn gwlad y mae buddiolwyr yn cynllunio gweithgaredd symudedd ynddi, gan arwain at gyngor FCDO yn erbyn teithio tramor, rhaid i’r buddiolwr wneud trefniadau amgen megis ad-drefnu’r lleoliad cyfnewid i gyrchwlad wahanol. Cyn gwneud unrhyw newidiadau, dylai buddiolwyr gysylltu â Bwrdd Gweithredol Taith i drafod/cytuno.
Mae cyrchwledydd wedi’u dosbarthu’n grwpiau ar sail y costau byw cymharol ym mhob gwlad:
- Grŵp 1 (Costau byw uwch)
- Grŵp 2 (Costau byw canolig)
- Grŵp 3 (Costau byw is)
Gweler Atodiad 1 – dosbarthiad gwledydd i gael rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o wledydd a’u grwpiau .